Call Today!

01758 760652

Home

The Walk

The Sections

Special Offers & Pre-arranged Itineraries 2013

News

Accommodation

Cycle Hire
Using GPS

Things to See

Other Activities

The History

Our Service

The Team

How to Book

Enquiry Form

Booking Conditions

Overseas Tour Operators

Links

Contact Us

Guest Book

View our Welsh Language Version of our brochure

Site designed by

www.cddweb.co.uk

Porth Dinllaen, Gwynedd ©Turtle Photography

Bardsey Island ©Turtle Photography

Grey Seal off Bardsey ©Turtle Photography

Bardsey from Anelog ©Turtle Photography

Porth Oer - Whistling Sands ©Turtle Photography

Aberdaron Village ©Turtle Photography

Llwybr Cyrion Cymru

Math newydd o wyliau cerdded sy’n cynnig pecyn cyflawn o lety, gwybodaeth a chludiant.

Llwybr newydd 47 milltir (75.6 km) ar hyd glannau Penrhyn Lly^n sy’n arwain i Ynys Enlli.

 

Hanes.

Yn ystod y 5ed a'r 6ed ganrif daeth Seintiau Celtaidd cynnar o Lydaw i Ly^n.  Cynigiai eu heglwysi loches i'r Celtiaid a oedd yn dianc rhag y goresgynwyr Sacsonaidd, ac i'r rhai a geisiai noddfa ar Ynys Enlli. 

Dilynwyd hwy gan bererinion y Canol Oesoedd, a ddioddefai galedi’r siwrnai i wneud iawn am eu pechodau, i geisio iachâd, neu mewn gobaith o gael marw ar Enlli, man sanctaidd, yr ystyrid ei bod yn gorfforol ac yn ysbrydol ar gyrion y ddaear – “porth y nefoedd yn wir”. Roedd y siwrnai mor beryglus fel y bu i’r Pab ddeddfu at bwrpas Maddeueb fod tair pererindod i Enlli’n gyfystyr ag un i Rufain. Ymhlith adfeilion yr Abaty ceir Croes Geltaidd i goffáu’r 20,000 o Seintiau a gladdwyd ar yr Ynys.  Bydd ein llwybr yn dilyn ôl troed y Seintiau cynnar hyn, wrth iddynt deithio heibio eglwysi a ffynhonnau sanctaidd Lly^n, gan gychwyn ger man ymgynnull hynafol Capel Beuno Sant yng Nghlynnog Fawr.

 

Ynys Enlli

Mae'r daith ar draws Swnt Enlli'n 4 milltir, ar gwch trwyddedig o Borth Meudwy, ger Aberdaron. Os bydd y tywydd a'r llanw'n caniatáu, gallwn drefnu ymweliad 4 awr i grwydro'r ynys hudolus, unigryw hon. Os hoffech antur, gallwn drefnu llety hunan-arlwyo yn un o’r ffermdai’r 19eg ganrif sydd ar yr Ynys. 

Tywysu'ch hunan.

Eich gwyliau chi yw hyn – lluniwch daith gerdded sy’n addas i’ch amser, eich uchelgais, a’ch anghenion chi.  Byddwn yn darparu mapiau manwl, hawdd eu dilyn, pac GPS (System Leoli Fyd-eang) a gwybodaeth leol i’ch tywys ar eich ffordd.

 

Llety.

Byddwn yn trefnu a thalu am hyn ymlaen llaw.  Defnyddiwn gysylltiadau a gwybodaeth leol yn ôl eich gofynion, eich pwrs a'ch rhaglen. Dewiswch fwthyn, gwesty, llety, neu gaban pren. Gallwn drefnu pob pryd bwyd, neu gallwch wneud eich prydau'ch hun. Un dewis poblogaidd yw’r nosweithiau Gwener a Sadwrn pan fyddwn yn llogi'r cyfan yn un o'r gwestai yn ardal Nefyn/ Clynnog ac un yn Aberdaron. Golyga hyn y gall parau neu unigolion gofrestru a mwynhau penwythnos o gerdded hollgynhwysfawr, a chwblhau hanner y Llwybr. Neu beth am roi cynnig ar ein syniad gwreiddiol, sef “parti ty^”. Caiff criw o ffrindiau ddefnydd hollol breifat o dy^ fferm trwy gydol eu gwyliau yn ogystal â gwasanaeth rhan-amser rhywun o'r ardal i goginio a chadw ty^.  Dywedwch chi beth sydd arnoch ei eisiau ac fe anfonwn ni atoch gynnig manwl wedi ei brisio cyn gwneud yr holl drefniadau ar ôl derbyn eich blaendal. 

Gwasanaeth Bws Mini.

Golyga ein gwasanaeth bws mini nad oes raid ichi yrru, troi’n ôl, na chario pac. Os dymunwch aros mewn lle gwahanol ar hyd y Llwybr bob nos, yna fe awn a’ch bagiau o’ch blaen. Os dewiswch aros mewn un lle canolog i’ch gwyliau, yna fe awn ni â chi'n ôl a blaen i’r Llwybr bob dydd. Ac os newidiwch eich meddwl, neu mewn argyfwng, rhowch alwad i’r gyrrwr ar ffôn symudol. Fe wna hyn Lwybr Cyrion Cymru yn ddelfrydol i’r rhai hynny sy’n troedio llwybr hirfaith am y tro cyntaf, neu’n dymuno cwblhau un mewn steil a phawb yn hapus! Grw^p ydym ni o drigolion Lly^n, yn gweithredu nid er mwyn elw, ond i annog cerddwyr i ddefnyddio adnoddau a gwasanaethau Lly^n ac felly i gynnal yr ardal hardd, ddilychwyn hon lle pery’r iaith Gymraeg a ffordd fwy traddodiadol o fyw. Rydym yn cynllunio pecynnau gwyliau cynhwysfawr yn ôl eich gofynion a’ch pwrs.

 

Mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd, ’rydym yn datblygu hen Ffordd y Pererinion yn Llwybr Cyrion Cymru ag arwyddion. Dyma lwybr hirfaith diweddaraf Prydain, llawer ohono’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae 75% ar hyd traethau tywodlyd / llwybrau pen clogwyn, 15% ar rostir, 8% ar lonydd tawel a llwybrau, a dim ond 2% ger unrhyw beth mor drefol â ffordd B. Credwn mai dyma'r llwybr prydferthaf yng Nghymru, gyda’i olygfeydd anhygoel a’r toreth o fywyd gwyllt ar hyd arfordir dilychwyn. Mae llawer o feini, eglwysi a ffynhonnau'r pererinion yma o hyd, a chewch gyfle i archwilio hen gaer Tre’r Ceiri, o Oes yr Haearn, dringo i ben yr Eifl, ymweld â Chanolfan Dreftadaeth Nant Gwrtheyrn, a mwynhau lletygarwch y Gegin Fawr, Aberdaron, lle gallai pererinion yn yr Oesoedd Canol hefyd hawlio eu pryd bwyd olaf cyn croesi i Ynys y Seintiau, Enlli.

 

Cysylltwch â’r swyddfa – yn ystod y dydd neu gyda’r nos – a gofynnwch am ein ffilm newydd ar CD-ROM neu VHS:

 

Llwybr Cyrion Cymru 1, Dolfor, Aberdaron, Gwynedd LL53 8BP

 

Ffôn: 01758 760652

 

E-bost: enquiries@edgeofwales.co.uk  Sut i gyrraedd

Mae bellach yn llawer haws nag a dybiwch!

Daw ffordd ddeuol newydd yr A55 â chi yn gyflym o’r M6 i Fangor, sydd heb fod nepell, neu cewch ddewis ffyrdd hardd tawelach trwy Eryri.  Gallwn ddod â chi o Faes Awyr Manceinion, o'r fferi o Ddulyn yng Nghaergybi, o derminws bysiau’r National Express yng Nghaernarfon, neu o orsaf y trên ym Mangor neu ym Mhwllheli.



Walking Holidays North Wales ~ Holidays North Wales ~ Self Guided Tours North Wales ~ Hiking Holidays North Wales ~ Pilgrim Walk North Wales ~ Holiday Cottages North Wales
Holidays For Walking North Wales ~ Holidays In North Wales ~ Touring Holidays North Wales ~ Pilgrim Walks North Wales ~ Outdoor Activities North Wales

Search Engine Optimisation (SEO) By First Search Consultancy


home | the walk | the sections | special offers | news | accommodation | cycle hire | using gps | things to see | other activities

the history | our service | how to book | enquiry form | booking conditions | overseas tour operators | links | contact us

All rights reserved © Edge of Wales Walk 2005-2013 Taith Ymylon Cymru Cedwir pob hawl